Y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd yr Ysgyfaint

Cross-Party Group on Lung Health

 

Cofnodion – 13 Mehefin 2023

 

Yn bresennol

Aelodau o’r Senedd

John Griffiths AS (yn cael ei gefnogi gan Owen Thomas)

Altaf Hussain AS

 

Y rhai nad ydynt yn Aelodau (23)

Joseph Carter – Asthma + Lung UK Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Alice Spencer

Bernardine Rees

Catherine Chiu

Chris Davies

Chrissie Gallimore

Dee Montague

Josephine Cock

Julie Mayes

Jonathan Morgan

Lyn Lording

Megan Lewis

Neil Harris

Pam Lloyd

Philip Webb

Rebecca Heathcote

Stephanie Philips

Steven Adair

Valerie Ann Tweedie

Val Maidment

Verdun Moore

Victoria Hunt

 

 

 

1.    John Griffiths AS – Croeso a chyflwyniadau

 

Dechreuodd John Griffiths AS y cyfarfod, gan ddiolch i bawb am ddod. Gofynnodd a oedd unrhyw Aelod o’r Senedd neu unrhyw aelod o staff cymorth am gyflwyno ei hun.

 

Eglurodd John Griffiths AS fod dau gyflwynydd heddiw, sef Catherine Chiu a Joseph Carter. Anogodd bobl i ofyn cwestiynau drwy ddefnyddio’r cyfleuster sgwrsio.

 

2.    John Griffiths AS – Ymddiheuriadau

 

Mae’r Aelodau a ganlyn wedi anfon eu hymddiheuriadau:

 

Natasha Asghar AS

Cefin Campbell AS

Tom Giffard AS

Siân Gwenllian AS

Mark Isherwood AS

Samuel Kurtz AS

Darren Millar AS

Rhianon Passmore AS

Carolyn Thomas AS

Sioned Williams AS

 

3.    John Griffiths AS Cofnodion y cyfarfod diwethaf  

 

Nid oedd unrhyw un o'r Aelodau a oedd yn bresennol heddiw hefyd yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol, felly nid oedd modd cymeradwyo'r cofnodion. Bydd Joseph Carter yn siarad â'r Aelodau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw er mwyn sicrhau bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo.

 

Cam i’w gymryd: Joseph Carter i gysylltu ag Aelodau at ddibenion cymeradwyo'r cofnodion.

 

*Roedd Mike Hedges AS a Huw Irranca-Davies AS yn fodlon cymeradwyo’r cofnodion ar gyfer mis Chwefror 2023 fel cofnod gwir a chywir o’r cyfarfod.

 

 

4.   Joseph Carter – Materion sy’n codi

 

Cytunwyd ar y camau gweithredu canlynol yn y cyfarfod blaenorol:

 

·         Cam i’w gymryd: Joseph Carter i gysylltu ag Altaf Hussain AS.

o   Wedi'i gwblhau

 

·         Cam i’w gymryd: Dywedodd Joseph y byddai’n mynegi’r holl bryderon a godwyd yn ystod cyfarfod gyda’r Gweinidog Iechyd ar 20 Mawrth 2023.

o   Wedi'i gwblhau

 

 

5.    Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol – Ethol Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol

 

Cafwyd enwebiadau ar gyfer John Griffiths AS fel Cadeirydd ac Asthma + Lung UK Cymru fel Ysgrifenyddiaeth.

 

Cadeirydd – Cafodd John Griffiths AS ei gynnig fel Cadeirydd gan Altaf Hussain AS, a derbyniodd y rôl.

Ysgrifenyddiaeth – Cafodd sefydliad Asthma + Lung UK Cymru ei gynnig gan Altaf Hussain AS, a’i eilio gan John Griffiths AS.

 

          Cam i’w gymryd – Joseph Carter i gyflwyno gwaith papur y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i'r Swyddfa Gyflwyno.

 

6.   Catherine Chiu, Asthma + Lung UK – Menywod ag asthma

 

Cyflwynodd John Griffiths AS Catherine Chiu, gan ddiolch iddi am roi cyflwyniad.

 

Dechreuodd Catherine ei chyflwyniad drwy egluro natur hormonau a’r hyn y maent yn ei wneud.

 

Bydd unrhyw un sydd wedi gwneud TGAU bioleg yn gyfarwydd â'r syniad o negeswyr cemegol, ond mewn gwirionedd, dyma'r ffordd orau i ddisgrifio’r hyn y mae hormonau yn ei wneud. Mae hormonau'n cael eu cynhyrchu mewn gwahanol organau yn y corff. Er enghraifft, mae inswlin, sy'n rheoli lefelau siwgr, yn cael ei gynhyrchu yn yr afu. 

 

Yna, mae’r hormonau yn teithio i bob ran o’n cyrff drwy ein llif gwaed, gan baratoi celloedd i wneud beth bynnag sydd angen iddynt ei wneud. 

 

Yn ein hachos ni, mae hormonau rhyw yn cael eu cynhyrchu yn yr ofarïau a'r ceilliau, ac maent yn mynd ati’n brysur i reoleiddio pob math o bethau sy'n ymwneud ag atgenhedlu. O ran menywod yn benodol, mae'r pethau hyn yn cynnwys dechrau cyfnod y glasoed, rheoleiddio cylch y mislif, paratoi ar gyfer beichiogrwydd neu'r menopos, ac arwain y corff drwy’r prosesau hynny. Dyna beth yw eu swyddogaeth. Serch hynny, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni – sef gwyddonwyr, ymchwilwyr, a menywod ag asthma – wedi sylwi eu bod, o bosibl, yn mynd y tu hwnt i’r swyddogaeth honno ac yn effeithio ar ein hanadlu. Neu, mae ganddynt gysylltiad, o leiaf, â'r modd y mae ein hysgyfaint yn gweithredu. 

 

Mae hormonau rhyw, yn enwedig estrogen, yn gysylltiedig â llid y llwybrau anadlu. Rydym ar ddeall bod estrogen yn cynyddu llid a bod testosteron yn lleihau llid. Mae’r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth na hyn, ond mae'r ddelwedd hon o’r effaith si-so yn un ddefnyddiol i gadw mewn cof am nawr. Yn benodol, gwyddom fod estrogen yn effeithio ar y cyhyrau llyfn yn ein llwybrau anadlu (y cyhyrau yw'r pethau sy'n rheoli symudiad), ond ni wyddom sut eto.

 

·         Mae asthma'n effeithio ar fenywod yn fwy na dynion, ac mae’n effeithio arnynt mewn ffyrdd gwaeth hefyd.

·         Mae mwy o fenywod na dynion yn dioddef o asthma.

·         Mae menywod yn llai tebygol o wella'n llwyr o asthma.

·         Maent yn profi mwy o byliau – mae merched rhwng 20 a 50 oed 3 gwaith yn fwy tebygol o orfod mynd i'r ysbyty.

·         Maent bron ddwywaith yn fwy tebygol o farw.

 

Mae Asthma + Lung UK yn buddsoddi £1.2 miliwn yn y broses o ddeall sefyllfa menywod ag asthma yn well.

 

Maent wedi ariannu prosiectau mewn dau gategori.

 

Canfod atebion

·         Beth mae ein geneteg yn ei wneud? Mae gennym yr atebion eisoes mewn setiau data digyswllt. Yr Athro Timothy Hinks, Rhydychen

·         Beth mae estrogen yn ei wneud yn ein llwybrau anadlu bach? Yr Athro Mona Bafadhel, Coleg y Brenin, Llundain

·         Sut y mae hormonau rhyw alldarddol yn effeithio ar asthma? Syed Ahmar Shah, Caeredin

 

Profi datrysiadau

·         O ran y feddyginiaeth a ddefnyddir i drin diabetes, a oes modd ei hail-bwrpasu i drin asthma? Dr Chloe Bloom, Imperial

·         I ba raddau y mae clociau ein corff yn gysylltiedig ag asthma, ac a yw'r amser yr ydych yn cymryd eich meddyginiaeth asthma yn bwysig? Dr Hannah Durrington, Manceinion

·         A all atchwanegiadau dietegol atal pyliau o asthma drwy ddiogelu’r corff rhag firysau? Dr Cornelia Blume, Southampton

 

 

7.   Alice Spencer – safbwynt y claf

 

Cyflwynodd John Griffiths AS Alice Spencer, gan ddiolch iddi am rannu ei hanes.

 

Eglurodd Alice ei bod yn 46 oed a’i bod yn byw yng Nghaerdydd, ac mai hithau yw prif ofalwr ei merch.

 

Cafodd ddiagnosis o asthma yn ei 30au. Roedd ganddi hanes teuluol o asthma, ac roedd hi'n meddwl y byddai modd rheoli’r cyflwr drwy ymarfer corff. Fodd bynnag, roedd hyn yn anodd yn sgil y ffaith bod ganddi asthma a oedd yn cael ei achosi gan ymarfer corff.

 

Aeth at y meddyg teulu, ond dim ond anadlydd salbutamol a roddwyd iddi. Gan nad oedd hyn yn ddigonol, cafodd anadlydd brown ei ragnodi ar ei chyfer hefyd. Fodd bynnag, gwaethygodd ei symptomau yn sgil hynny, felly ni ddefnyddiodd yr anadlydd hwnnw. Roedd asthma Alice yn parhau i gael ei reoli'n wael. Roedd hi’n parhau i besychu a gwichian, a chafodd y cyflwr ei reoli'n wael am rai blynyddoedd. Roedd hi'n meddwl mai dyma sut beth oedd bywyd ag asthma.

 

Yn 2016, daeth yn feichiog a diflannodd ei symptomau. Aeth i weld anesthetydd, a wnaeth ei holi am ei hasthma. Nid oedd hi wedi meddwl am y peth, gan beri iddi ystyried tybed a oedd y cyflwr wedi gwella. Ar ôl genedigaeth ei merch, daeth yr asthma yn ôl yn waeth nag o'r blaen. Mae gan ferch Alice ffibrosis systig, ac roedd angen rhoi blaenoriaeth i'w hanghenion gofal hi. O ganlyniad, gwaethygodd asthma Alice, gan nad oedd ganddi'r amser i wneud ymarfer corff a'i reoli. Yn y cyfnod pan oedd ei merch yn blentyn bach, aeth Alice i weld ei meddyg teulu, a chafodd anadlydd gwahanol (sef Fostair, i’w ddefnyddio ddwywaith y dydd). Mae bellach yn gwybod beth sy’n peri iddi gael pyliau – paill, straen, newidiadau mewn pwysedd aer, lleithder ac unrhyw firysau. Mae bod yn ofalwr sydd ag asthma ond sy’n gorfod blaenoriaethu anghenion rhywun arall yn sefyllfa heriol iawn.

 

Yn 44 oed, cafodd ddiagnosis o berimenopos. Gwaethygodd ei hasthma, a dechreuodd gael pyliau o’r meigryn. Roedd y ddau beth yn gysylltiedig â'i chylch misol. Cafodd HRT ei ragnodi ar ei chyfer, ond gwaethygodd y pyliau o’r meigryn yn sgil hynny.

 

Gwnaeth John Griffiths AS wahodd pawb i ofyn cwestiynau i Catherine neu Alice.

 

Awgrymodd Dee Montague fod y dystiolaeth ynghylch asthma mewn menywod yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru fel rhan o’r datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod a merched. Gofynnodd am rôl cleifion yn y broses o ddylunio'r ymchwil.

 

Eglurodd Catherine fod angen i ymchwilwyr ddangos eu bod wedi cynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y broses o ddatblygu eu cwestiynau ymchwil cyn y gellir eu hystyried ar gyfer cyllid. Dywedodd y gall gwasanaeth ymgynghorol Asthma + Lung UK, sef Respiratory Insights, helpu gyda hyn.

 

Soniodd Meg Lewis am ei chyflwr hithau, sef Niwmonitis Hypersensitifedd. Mae hi wedi sylwi bod ei symptomau fel petaent wedi dechrau newid, yn dibynnu ar ei chylch misol. Mae wedi dechrau cael pyliau o’r meigryn yn sgil ei meddyginiaeth, ac wedi cael cyngor i beidio â beichiogi, gan y gallai'r feddyginiaeth niweidio'r ffetws.

 

Dywedodd Catherine fod estrogen yn gallu cael effaith o ran llid yr ysgyfaint. Felly, mae’n debygol o gael effaith mewn perthynas â chyflyrau eraill yr ysgyfaint hefyd. Gan fod rhywfaint o dystiolaeth eisoes yn bodoli o ran y cysylltiad rhwng asthma ag estrogen, dyma oedd man cychwyn y prosiect. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio ei ddefnyddio i sbarduno gweithgarwch ynghylch cyflyrau eraill yr ysgyfaint.

 

Roedd Philip Webb am dynnu sylw'r grŵp at y gwaith y mae Arloesedd Anadlol Cymru yn ei wneud ynghylch ansawdd aer dan do. Dywedodd fod y data'n dangos mai cysylltiad cronig â lefelau isel o nwyon a gronynnau sydd wrth wraidd iechyd a lles anadlol. Mae’r sefydliad yn cydweithio â nifer o bobl i newid y sefyllfa hon ar lefel y boblogaeth, a hynny drwy hyrwyddo amgylcheddau adeiladu sero net sy’n fwy clyfar a deallus (cartrefi, mannau cyhoeddus a gweithleoedd) a thrwy edrych ar y cysylltiad rhwng nwyon, gronynnau ac iechyd a lles anadlol.

 

Dywedodd Catherine fod llygredd aer yn effeithio ar bob un ohonom, gan achosi rhai cyflyrau sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a chan wneud i gyflyrau eraill waethygu.

 

Dywedodd Dee fod pwynt Philip yn cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd, y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w roi ar waith ym mhob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i’r adroddiad ‘Drws ar Glo’ (sy’n ymwneud ag effaith COVID ar bobl anabl). Gallai aer glân olygu bod llai o bobl yn anabl.

 

Dywedodd Lyn Lording mai dim ond pan oedd hi'n 62 oed ac wedi bod drwy’r menopos ac wedi dioddef methiant anadlol y cafodd hi ddiagnosis o asthma. Gofynnodd a fyddai modd gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon teulu. Cytunodd Catherine fod angen gwneud mwy, gan nodi ei bod yn gobeithio y byddai canlyniadau'r gwaith ymchwil newydd yn codi ymwybyddiaeth.

 

Cam i’w gymryd – Joseph Carter i ddrafftio llythyr i John Griffiths AS i’w anfon at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â menywod ag asthma.

Cam i’w gymryd – Joseph Carter i ddosbarthu’r cyflwyniad ynghylch menywod ag asthma, ynghyd â’r cofnodion.

 

 

8.   Joseph Carter – dadl ar iechyd yr ysgyfaint yn y Senedd

 

Yn sgil cyfyngiadau amser, ni roddodd Joseph Carter ei gyflwyniad yn ystod y cyfarfod. Fodd bynnag, mae crynodeb wedi'i gynnwys yma, a bydd copi o’r cyflwyniad yn cael ei ddosbarthu gyda'r cofnodion.

 

Ar 17 Mai 2023, bu Aelodau o’r Senedd yn trafod cynnig Plaid Cymru ar glefydau anadlol. Roedd y cynnig fel a ganlyn:

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod 1 ym mhob 5 o bobl yn byw gyda chyflwr ysgyfaint yng Nghymru;

b) bod gan Gymru'r lefel uchaf o farwolaethau anadlol yng ngorllewin Ewrop;

c) nad yw'r gwasanaethau anadlu wedi adfer yn dilyn y pandemig, gyda rhestrau aros ar gyfer adsefydlu ysgyfeiniol mor uchel â thair blynedd mewn rhai rhannau o Gymru;

d) bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu datganiad ansawdd newydd ond does dim cynllun gweithredu.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer clefydau anadlol i drawsnewid bywydau pobl sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint.

 

Cafwyd trafodaeth dda ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

 

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth AS ddisgrifio clefyd yr ysgyfaint fel argyfwng cyhoeddus, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i leihau marwolaethau anadlol. Dywedodd fod llai na 10 y cant o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael y pum elfen greiddiol o ofal COPD sylfaenol, gan ychwanegu na fyddai'r Datganiad Ansawdd yn effeithiol heb gynllun gweithredu.

 

Galwodd Russell George AS ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod iechyd yr ysgyfaint yn flaenoriaeth iddi.

Er mwyn pwysleisio maint y broblem, nododd fod mwy na 74,000 o bobl yn byw gyda COPD, sy’n cyfateb i boblogaeth etholaeth gyfan. Dywedodd fod y sefyllfa o ran rhestrau aros yn gorfodi pobl i ddefnyddio eu cynilion.

 

Soniodd Mabon ap Gwynfor AS am ei brofiad ei hun o gael asthma, gan gyfeirio at lygredd aer a thai. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i'r afael â llygredd aer, sy'n achosi cyflyrau sy’n effeithio ar yr ysgyfaint ac yn gwneud i’r cyflyrau hyn waethygu. Dywedodd fod plant sy'n byw mewn cartrefi sydd â llwydni a lleithder hyd at deirgwaith yn fwy tebygol o ddioddef o beswch neu wichian cyson na phlant sy'n byw mewn cartrefi sych.

 

Soniodd John Griffiths AS am bwysigrwydd atal clefyd yr ysgyfaint.

Croesawodd y Bil Amgylchedd, ond galwodd am fwy o gyllid. Dywedodd John fod gan rannau mwyaf difreintiedig Cymru gyfraddau ysmygu sy’n uwch na 21 y cant o hyd, a dywedodd fod yn rhaid gwneud mwy i'w cefnogi.

 

Soniodd Jenny Rathbone AS yn fyr am y peryglon sy’n gysylltiedig â cherbydau sy’n segura, gan eu bod yn cynhyrchu lefelau peryglus o lygredd aer ac yn achosi cyflyrau yr ysgyfaint. Dywedodd fod gan yr awdurdodau lleol bwerau i fynd i'r afael â'r broblem hon, a bod modd iddynt wneud mwy.

 

Soniodd Sioned Williams AS am y ffaith bod ei nain wedi marw o ganlyniad i asthma cyn iddi gael ei geni. Soniodd am y gyfran uwch o fenywod sydd ag asthma, a’r ffaith nad oes digon o ymchwil yn cael ei wneud i ddeall rôl hormonau. Gan gyfeirio ar Aberafan, dywedodd Sioned fod 75 y cant o feddygfeydd y dref ac 11 y cant o’i hysgolion mewn ardaloedd sy’n torri terfynau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer NO2.

 

Dywedodd Dr Altaf Hussain AS fod gan ranbarth Gorllewin De Cymru rai o'r cyfraddau uchaf o farwolaethau anadlol yn y Deyrnas Unedig a gorllewin Ewrop. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn rhoi cynllun gwella ar waith ar gyfer clefydau anadlol a gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â’n hanes erchyll o farwolaethau anadlol.

 

Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd Eluned Morgan AS fod canlyniadau gwael yn deillio o afiechydon anadlol yn adlewyrchu cyfraddau ysmygu uchel hanesyddol, llygredd aer a diwydiant. Soniodd am lwyddiant yr apiau anadlol sydd wedi dod i’r amlwg, a nododd y byddai gweithrediaeth newydd GIG Cymru a’r datganiad ansawdd yn arwain at newid.

 

Cafodd y cynnig ei drechu, gyda 24 Aelod o’r Senedd yn pleidleisio o’i blaid a 25 Aelod yn pleidleisio yn ei erbyn.

 

Cam i’w gymryd – Joseph Carter i ddosbarthu’r cyflwyniad ynghylch y ddadl ar iechyd yr ysgyfaint, ynghyd â’r cofnodion.

 

 

9.    Joseph Carter – y cyfarfod nesaf a'r gwaith sydd i ddod

 

Gofynnodd John Griffiths AS i Joseph Carter i siarad am gyfarfodydd yn y dyfodol. Diolchodd Joseph i bawb am eu cyfraniadau ac am roi o’u hamser i ddod i’r cyfarfod. Cadarnhaodd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 12 Medi 2023. Trafodwyd yr opsiynau ar gyfer siaradwyr ynghylch llygredd aer dan do, gan gynnwys Arloesedd Anadlol Cymru.

 

 

10.                John Griffiths AS – Unrhyw fater arall

 

Gofynnodd John Griffiths AS a oedd gan unrhyw un unrhyw fater arall. Nid oedd unrhyw fater arall, felly diolchodd i bawb am fod yn bresennol a daeth â’r cyfarfod i ben.